Diogelu ac Amddiffyn Plant
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn gyfrifoldeb pawb o fewn yr ysgol. Er bod aelodau dynodedig am sicrhau bod trefniannau yn eu lle ac yn cael eu dilyn, mae holl staff yr ysgol ac y corff llywodraethol yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau ac yn cydnabod eu bod hwythau hefyd yn gyfrifol am ddiogleu ac amddiffyn plant.
Yn Ysgol Llangybi, mae diogelwch a lles y plant yn flaenoriaeth i bawb. Mae pob aelod o staff wedi derbyn hyfforddiant Diogelu Lefel 1 fel eu bod yn deall eu cyfrifoldebau i gadw plant yn ddiogel.
Mae’r staff dynodedig wedi derbyn hyfforddiant Lefel 2 ac uwch er mwyn arwain a chefnogi’r broses diogelu yn yr ysgol. Mae’r holl dîm – staff, llywodraethwyr a’r gymuned ysgol – yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod pob plentyn yn cael eu diogelu, eu parchu ac yn gallu dysgu mewn amgylchedd diogel a gofalgar.
Mesurau Diogelu ac Amddiffyn Plant
-
Mae gan bob aelod o staff, llywodraethwr ac unrhyw ymwelydd cyson (e.e. athro cerdd) DBS cyfredol.
-
Mae pob ymwelydd arall yn cael ei oruchwylio 100% yn ystod eu presenoldeb ar y safle.
-
Ceir un prif fynedfa i’r safle; mae pob drws arall wedi’i gloi o’r tu allan.
-
Rhaid i bob ymwelydd, heblaw rhieni, lofnodi i mewn ac i wisgo bathodyn adnabod amlwg.
-
Sicrheir cymhareb oruchwylio briodol yn ystod amser chwarae ac amser cinio.
-
Cedwir cofnodion swyddogol o unrhyw gonsyrn sy’n ymwneud â lles neu ddiogelwch plentyn.
-
Caiff plant eu cyfeirio at Wasanaethau Cymdeithasol os oes unrhyw amheuaeth am eu diogelwch neu les.
-
Mae holl staff yn ymwybodol o’r polisi diogelu ac wedi cwblhau hyfforddiant Amddiffyn Plant.
Pwy ydi'r swyddogion dynodegig?

Mr Einion ap LlÅ·r Edwards

Mrs Sophie Jones
Dirprwy Swyddog Dynodedig Amddiffyn Plant

Mrs Meinir Jones
Aelod Dynodedig Amddiffyn Plant y Corff Llywodraethol
07502333431

Mr Merfyn Owen
Cadeirydd Y Corff Llywodraethol
07377059689
