top of page

Gwefannau Addysgiadol Defnyddiol

hwb

Hwb yw platfform digidol cenedlaethol Cymru ar gyfer dysgu ac addysgu. Mae’n cynnig ystod eang o adnoddau, apiau ac offer ar-lein i gefnogi gwaith yr ysgol. Mae pob plentyn yn gallu mewngofnodi i Hwb yn yr ysgol ac adref, gan alluogi dysgu parhaus a chyfle i ymarfer sgiliau ar unrhyw adeg.

google classrooms

Google Classrooms yw platfform ar-lein lle mae athrawon yn gallu rhannu gwersi, tasgau a dogfennau gyda disgyblion. Gall plant fewngofnodi i’w dosbarth ar y cyfrifiadur neu ar dabled yn yr ysgol ac adref. Yno, gallant weld eu gwaith, lawrlwytho adnoddau a chyflwyno tasgau yn electronig. Mae Google Classrooms yn helpu i gadw popeth wedi’i drefnu mewn un lle hawdd i’w ddefnyddio.

canva

Canva yw gwefan lle gall plant greu posteri, cyflwyniadau a dyluniadau lliwgar mewn ffordd syml a hwyliog. Maen nhw’n gallu mewngofnodi yn yr ysgol ac adref gan ddefnyddio eu cyfrif Hwb am ddim. Mae Canva’n llawn templedi a syniadau barod i’w haddasu, sy’n ei wneud yn hwyl i greu gwaith creadigol ac yn hawdd i’w ddefnyddio.

tt rockstars

TT Rockstars yw rhaglen ar-lein sy’n helpu plant i ymarfer a meistroli eu tablau lluosi mewn ffordd hwyliog. Mae pob plentyn yn cael cyfrif i fewngofnodi yn yr ysgol ac adref, fel y gallant chwarae gemau, cystadlu gyda ffrindiau a gwella eu cyflymder wrth ateb cwestiynau.

darllen co

Darllen Co yw rhaglen ddarllen sy’n helpu plant i ddatblygu eu sgiliau darllen trwy ddarllen llyfrau sy’n addas i’w lefel. Mae gan bob plentyn gyfrif i fewngofnodi yn yr ysgol ac adref, fel y gallant ddarllen ar-lein, ateb cwestiynau am y llyfrau a thracio eu cynnydd.

adobe

Mae Adobe Creative Express yw adnodd creadigol ar-lein sy’n helpu plant i greu posteri, cyflwyniadau, fideos a lluniau wedi’u dylunio mewn modd proffesiynol. Gall disgyblion fewngofnodi yn yr ysgol ac adref gan ddefnyddio eu cyfrif Hwb am ddim. Mae’n cynnig templedi a dyluniadau syml sy’n datblygu sgiliau creadigrwydd a chyfrifiadura, ac mae popeth yn cael ei gadw ar-lein fel bod modd parhau gyda gwaith ar unrhyw ddyfais.

hit the button

Hit the Button ar wefan Topmarks yw gêm fathemateg boblogaidd sy’n helpu plant i ymarfer sgiliau fel tablau lluosi, rhannu, ychwanegu, tynnu a rhifau cyfunol. Mae’r gêm yn gyflym, hwyliog ac yn rhoi cyfle i blant wella eu hyder a’u cyflymder mewn mathemateg, yn yr ysgol ac adref.

bottom of page